Gwyliau Cerdded yng Nghymru
English
Croeso i Wyliau Bwthyn yng Nghymru…..
Taith Taf
Mae Llwybr Cerdded Pell Taith Taf yn cysylltu Caerdydd â’r Cymoedd gydag Aberhonddu. Mae’r llwybr yn 88cilomedr neu 55 milltir o ran pellter, er, mae’r ffigwr hwn yn dwyllodrus gan fod yr holl lwybrau cymunedol neu gylchol sy’n cysylltu â’r prif lwybr yn ei gwneud yn llawer hirach.
Mae’r llwybr yn cael ei alw’n Taith Taf am ei fod yn dilyn taith yr Afon Taf, fwy neu lai o’i haber i’w ffynhonnell ym Mannau Brycheiniog, rhyw 55 milltir o hyd .
O Ferthyr i Bontygwaith mae’n dilyn hen Gamlas Sir Forgannwg, sydd ar ochr Aberfan y dyffryn. Wedyn mae’n newid ochr i ymuno â llwybr Trevithick sy’n rhedeg o Ferthyr i Abercynon, ar ochr Cwm Merthyr o’r cwm. Mae’r afon yn rhannu’r ddau bentref, Aberfan ac Ynysowen.
Mae sawl llwybr cerdded yn rhedeg ar ei hyd:
• Llwybr Cambrian
• Llwybr Coed Morgannwg
• Llwybr Cerdded Cefnffordd Cwm Rhymni
• Llwybr Cerdded Cefnffordd Taf Elai
• Llwybr Cerdded Dyffryn Wysg
• Llwybr y Gororau
Chwiliwch am y rhain ar y Gwefannau / Mapiau Arolwg Ordnans priodol.
Mae Coedwig Cwmcarn yn enwog am ei llwybrau Beicio Mynydd, ond mae llwybrau cerdded yno hefyd sy’n addas i bawb o wahanol alluoedd ac yn addas i deuluoedd.
Gallwch fynd â’r car ar hyd y 7 milltir hyn hefyd a chymryd hoe yn eich amser eich hun i weld y golygfeydd godidog. Mwy o wybodaeth ar wefan “Visit Caerphilly” .