Pam ymweld ag Ynysowen a’r ardaloedd o amgylch?
English
Mae cyfoeth o hanes diwydiannol a diwylliannol yma
Merthyr Tudful – tref ddiwydiannol fwyaf enwog Cymru, a oedd ar un adeg y ganolfan cynhyrchu haearn fwyaf yn y byd.
Hefyd, yma y tynnodd yr injan stêm gyntaf (Richard Trevithick) lwyth o haearn 10 tunnell a 70 o deithwyr ar hyd cledrau am 9 milltir o Ferthyr i Abercynon.
Castell Cyfarthfa sydd bellach yn amgueddfa, ac a oedd yn gartref i’r meistri gwaith haearn – y teulu Guest.
Terfysgoedd Merthyr – gwrthryfel yn erbyn y meistri haearn oedd yn cadw’r gweithwyr yn dlawd, mewn cartrefi sâl gyda glanweithdra gwael. Crogwyd Dic Penderyn yn dilyn y digwyddiadau hyn, am ymosodiad honedig ar swyddog heddlu. Roedd yn ddieuog.
Joseph Parry
Cyfansoddwr Cymraeg cynhyrchiol a cherddor gwych.
Enwog am ysgrifennu’r dôn a’r geiriau “MYFANWY”
Caiff ei hanes ei anfarwoli yn nofel Jack Jones “Off To Philadelphia In The Morning”.
Llancaeach Fawr: maenor gyda waliau 4 troedfedd o drwch y dywedir y mae bwgan neu ysbryd yn byw ynddo.
Am ragor o wybodaeth ar:
• Llefydd i ymweld â nhw
• Atyniadau lleol
• Ble i fwyta
• Gweithgareddau lleol
• Diwylliant a Threftadaeth
Ewch i wefan Visit Merthyr: www.visitmerthyr.co.uk
Aberdâr
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol “Fodern” gyntaf yma ym 1861. Mae’n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn yn ne a gogledd y wlad.
Kier Hardy
Bu’n byw yn Aberdâr ac ef oedd arweinydd cyntaf y Blaid Lafur, er ei fod yn dod o’r Alban yn wreiddiol.
Ar ben mwyaf gogleddol y cwm hwn mae Penderyn, sy’n enwog am ei Distyllfa Wisgi – teithiau a sesiynau blasu ar gael!!
Aberpennar
Ychydig ymhellach i’r de rhedodd Guto Nyth Bran y filltir 4 munud cyntaf cyn cwympo’n farw wrth gael ei longyfarch.
Pontypridd
Adeiladwyd y bont ag un bwa fwyaf yn Ewrop 250 mlynedd yn ôl gan William Edwards (ar ei bedwaredd ymdrech) ac mae’r bont yn dal i sefyll heddiw. (Mae replica bach i’w weld yn y bwthyn).
Anthem Genedlaethol Cymru:- Hen Wlad Fyn Hadau.
Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd gan Evan James a’i fab James James o Bontypridd, ym 1856.
Mae cerflun i gofio’r ddau ohonynt i’w weld ym Mharc Ynysangharad (Parc Pontypridd)
Geraint Evans a Stuart Burrows – Ganwyd y cantorion opera byd-enwog hyn yn yr ardal hon, a’r canwr pop enwog Tom Jones – cyfoeth o dalent o un ardal fechan.
Llantrisant
Dr William Price – y dyn oedd yn gyfrifol am yr amlosgiad cyntaf, ar ei fab ifanc iawn. Roedd hefyd yn llysieuwr.
Mae’r Bathdy Brenhinol ,sy’n cynhyrchu darnau arian y deyrnas, hefyd yn y dref fechan hon.
Caerffili
Cartref castell hanesyddol, gyda thwr y dywedir sy’n gogwyddo mwy na thwr Pisa.
Gyda dyfrffos yn llawn dŵr.
Blaenafon
Enillodd statws “Treftadaeth y Byd” yn ddiweddar.
Y Pwll Mawr, pwll glo go iawn, y gallwch fynd i lawr iddo yn y “cawell” a cherdded yn bell o dan y ddaear, ble bu’r glowyr yn cloddio am lo – tipyn o brofiad.
Tredegar
Roedd Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ym 1948, yn hanu o’r dref hon.