Gwyliau Bwthyn yng Nghymru
Gwyliau Bwthyn yng Nghymru
Croeso!
Gyda digon o le i deulu o 5 neu fwyafrif o 4 oedolyn, mae Bwthyn Pen-y-Fan yn lleoliad delfrydol i gerddwyr, beicwyr neu i orffwys ac ymlacio.
Mae Bwthyn Pen-y-Fan, sydd wedi ennill gradd “4″ seren gan Croeso Cymru, yn fwthyn teras carreg , hunan ddarpar wedi ei adnewyddu mewn arddull draddodiadol sy’n gweddu i’r cyfnod y cafodd ei adeiladu ‘n gartref i lowyr a’u teuluoedd ar gyfer Pwll Glo Ynysowen yn y 1800edd hwyr.
Gorwedd yng nghanol Cwm Merthyr , sy’n fwrlwm o dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol , ynghyd a golygfeydd bendigedig. Mae’r tomennydd glo du bellach yn fryniau o felfed gwyrdd.
Rydym yn croesawu cŵn a phlant, ac unrhyw un sy’n mwynhau: Cerdded, Beicio, Beicio Mynydd, Barcuta, Paresgyn, Adareg, Dringo Creigiau (clogwyni awyr agored a chanolfan ddringo dan do) Hwylio, Canŵio, Hwylfyrddio, Pysgota afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr. Mae Bannau Brycheiniog hefyd ar garreg y drws.
Dyma ardal sydd â chyfoeth o ddiddordebau hanesyddol – gweler y dolenni ar gyfer: Gwybodaeth Croeso Cymru i Dwristiaid
Os na allwch chi fyw heb y siopau, bydd rhaid mynd ar daith i’r Brifddinas yng Nghaerdydd!
Mae’r HOLL weithgareddau hyn o fewn rhyw 1/2 awr o’r bwthyn.
Mae ein bwthyn gwyliau hyfryd yn Ynysowen, cyn bentref glofaol yn Ne Cymru, rhyw 4 milltir (6.4cilomedr) i’r de o Ferthyr Tudful.
Mae Taith Taf yn llwybr cerdded a beicio poblogaidd sy’n rhedeg am 55 milltir (89 cilomedr) rhwng Bae Caerdydd i’r de ac Aberhonddu i’r gogledd. Fel yr awgryma’r enw mae’r llwybr yn dilyn cwrs yr Afon Taf, sydd hefyd yn llifo trwy’r pentref.
Mae llawer o’r llwybr yn dilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 8 sy’n rhedeg yr holl ffordd i Gaergybi ac sydd oddi ar y ffordd fawr am ran helaeth o’r daith.